Lines Matching refs:r

5 Gan mai cydnabod urddas cynhenid a hawliau cydradd a phriod holl aelodau’r teulu dynol yw sylfaen rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd,
17 Gan fod y Gwladwriaethau sy'n Aelodau wedi ymrwymo, mewn cydweithrediad â'r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau hyrwyddo parch cyffredinol i hawliau dynol a'r rhyddfreintiau sylfaenol, a'u cadw,
19 Gan fod deall yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn gan bawb o'r pwys mwyaf i lwyr sylweddoli'r ymrwymiad hwn,
21 Felly, y mae'r
25 yn awr yn cyhoeddi'r
29 yn ddelfryd cyffredin i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd ymgyrraedd ato, fel y bo i bob person ac i bob offeryn cymdeithasol, gan ddal y Datganiad hwn mewn cof yn wastad, ymdrechu trwy ddysgu a hyfforddi i sicrhau parch i'r hawliau a'r rhyddfreintiau hyn, a thrwy ffyrdd blaengar, cenedlaethol a chydgenedlaethol, i sicrhau eu cydnabod a'u cadw yn gyffredinol ac yn effeithiol, ymysg pobloedd y Gwladwriaethau sy'n Aelodau eu hunain yn ogystal ag ymysg pobloedd y tiriogaethau sydd dan eu rheolaeth.
35 Y mae gan bawb hawl i'r holl hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.
43 Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd caethwasiaeth a'r fasnach gaethweision ym mhob un o’u hagweddau.
52 Y mae pawb yn gydradd yng ngolwg y gyfraith gyda’r hawl yn ddiwahân i'r un amddiffyniad gan y gyfraith. Y mae gan bawb hawl i'r un amddiffyniad yn erbyn unrhyw wahaniaethu sy’n groes i’r datganiad hwn neu unrhyw anogaeth i wahaniaethu.
55 Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd sy’n troseddu'r hawliau sylfaenol a roddwyd iddynt gan y cyfansoddiad neu gan y gyfraith.
66 2. Ni ddylid dyfarnu neb yn euog o drosedd gosbadwy oherwydd unrhyw weithred neu wall nad oedd yn drosedd, yn ôl cyfraith genedlaethol neu ryngwladol, pan gyflawnwyd hi. Ni ddylid ychwaith osod cosb drymach na’r un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd gosbadwy.
72 1. Y mae gan bawb hawl i symud fel y mynnant ac i breswylio lle y mynnant o fewn terfynau'r Wladwriaeth.
91 3. Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas a chanddo’r hawl i amddiffyniad gan gymdeithas a’r Wladwriaeth.
132 1. Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i'w hiechyd a'u ffyniant eu hunain a'u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd diweithdra, afiechyd, anabledd, gweddwdod, henaint neu unrhyw fethiant bywoliaeth arall pan fo’r amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth.
134 2. Y mae gan famolaeth a phlentyndod hawl i ofal a chymorth arbennig. Dylai pob plentyn, p’un ai wedi eu geni o fewn neu du allan i briodas, fwynhau'r un diogelwch cymdeithasol.
139 2. Dylai addysg amcanu datblygu personoliaeth llawn yr unigolyn a chryfhau parch i hawliau dynol a'r rhyddfreintiau sylfaenol. Dylai hyrwyddo dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymysg yr holl genhedloedd ac ymysg grwpiau hiliol neu grefyddol, a dylai hefyd hyrwyddo gwaith y Cenhedloedd Unedig dros heddwch.
141 3. Gan rieni y mae'r hawl cyntaf i ddewis y math o addysg a roddir i'w plant.
144 1. Y mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymdeithas, i fwynhau'r celfyddydau ac i gyfranogi o gynnydd gwyddonol a’i fuddiannau.
146 2. Y mae gan bawb yr hawl i fynnu diogelwch i'r buddiannau moesol a materol sy'n deillio o unrhyw gynnyrch gwyddonol, llenyddol neu artistig y maent yn awdur iddo.
149 Y mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol lle y gellir llawn sylweddoli'r hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn.
154 2. Ni ddylid cyfyngu ar neb, wrth iddynt arfer eu hawliau a'u rhyddfreintiau, ond pan bennir hynny gan gyfraith gyda'r unig amcan o sicrhau cydnabod a pharchu hawliau a rhyddfreintiau pobl eraill, ac i gyfarfod â gofynion cyfiawn moesoldeb, trefn gyhoeddus a ffyniant cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd.
156 3. Ni ellir arfer yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn mewn unrhyw achos yn groes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.
159 Ni ellir dehongli dim yn y Datganiad hwn i olygu bod gan Wladwriaeth, grp neu berson unrhyw hawl i ymroddi i unrhyw weithgarwch neu i gyflawni unrhyw weithred gyda'r bwriad o ddistrywio unrhyw un o'r hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yma