Lines Matching refs:a

5 Gan mai cydnabod urddas cynhenid a hawliau cydradd a phriod holl aelodau’r teulu dynol yw sylfaen rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd,
7 Gan i anwybyddu a dirmygu hawliau dynol arwain at weithredoedd barbaraidd a dreisiodd gydwybod dynolryw, a bod dyfodiad byd lle y gall pob unigolyn fwynhau rhyddid i siarad a chredu a rhyddid rhag ofn ac angau wedi ei gyhoeddi yn ddyhead uchaf y bobl gyffredin,
9 Gan fod yn rhaid amddiffyn hawliau dynol a rheolaeth cyfraith, os nad yw pob unigolyn dan orfod yn y pendraw i wrthryfela yn erbyn gormes a thrais,
13 Gan fod pobloedd y Cenhedloedd Unedig yn y Siarter wedi ail ddatgan ffydd mewn hawliau sylfaenol yr unigolyn, mewn urddas a gwerth y person dynol ac mewn hawliau cydradd
15 gwr a gwragedd, ac wedi penderfynu hyrwyddo cynnydd cymdeithasol a safonau byw gwell mewn rhyddid helaethach,
17 Gan fod y Gwladwriaethau sy'n Aelodau wedi ymrwymo, mewn cydweithrediad â'r Cenhedloedd Unedig, i sicrhau hyrwyddo parch cyffredinol i hawliau dynol a'r rhyddfreintiau sylfaenol, a'u cadw,
19 Gan fod deall yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn gan bawb o'r pwys mwyaf i lwyr sylweddoli'r ymrwymiad hwn,
29 yn ddelfryd cyffredin i'r holl bobloedd a'r holl genhedloedd ymgyrraedd ato, fel y bo i bob person ac i bob offeryn cymdeithasol, gan ddal y Datganiad hwn mewn cof yn wastad, ymdrechu trwy ddysgu a hyfforddi i sicrhau parch i'r hawliau a'r rhyddfreintiau hyn, a thrwy ffyrdd blaengar, cenedlaethol a chydgenedlaethol, i sicrhau eu cydnabod a'u cadw yn gyffredinol ac yn effeithiol, ymysg pobloedd y Gwladwriaethau sy'n Aelodau eu hunain yn ogystal ag ymysg pobloedd y tiriogaethau sydd dan eu rheolaeth.
32 Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd â'i gilydd mewn urddas a hawliau. Fe'u cynysgaeddir â rheswm a chydwybod, a dylai pawb ymddwyn y naill at y llall mewn ysbryd cymodlon.
35 Y mae gan bawb hawl i'r holl hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.
40 Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch.
43 Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd caethwasiaeth a'r fasnach gaethweision ym mhob un o’u hagweddau.
55 Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd sy’n troseddu'r hawliau sylfaenol a roddwyd iddynt gan y cyfansoddiad neu gan y gyfraith.
61 Y mae gan bawb hawl, mewn cydraddoldeb llawn, i gael gwrandawiad teg a chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd, wrth benderfynu eu hawliau a’u rhwymedigaethau ac unrhyw gyhuddiad troseddol yn eu herbyn.
64 1. Y mae gan bawb a gyhuddir o drosedd gosbadwy hawl i gael eu hystyried yn ddieuog tan y profir hwynt yn euog yn ôl y gyfraith mewn prawf cyhoeddus lle y byddant wedi cael pob gwarant angenrheidiol at eu hamddiffyniad.
66 2. Ni ddylid dyfarnu neb yn euog o drosedd gosbadwy oherwydd unrhyw weithred neu wall nad oedd yn drosedd, yn ôl cyfraith genedlaethol neu ryngwladol, pan gyflawnwyd hi. Ni ddylid ychwaith osod cosb drymach na’r un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd gosbadwy.
74 2. Y mae gan bawb hawl i adael unrhyw wlad, gan gynnwys eu gwlad eu hunain, a hawl i ddychwelyd iddi.
87 1. Y mae gan bawb mewn oed, yn wryw a benyw, heb unrhyw gyfyngiadau o ran hil, cenedligrwydd na chrefydd, hawl i briodi a sefydlu teulu. Y mae ganddynt hefyd hawliau cyfartal yngln â phriodas, yn ystod priodas ac wrth ei diddymu.
91 3. Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas a chanddo’r hawl i amddiffyniad gan gymdeithas a’r Wladwriaeth.
99 Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; fe gynnwys hyn ryddid iddynt newid eu crefydd neu eu cred, a rhyddid hefyd, naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, yn gyhoeddus neu'n breifat, i amlygu eu crefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau.
102 Y mae gan bawb ryddid barn a mynegiant; fe gynnwys hyn yr hawl i ryddid barn, heb ymyrraeth gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a syniadau trwy unrhyw gyfryngau, heb ystyried ffiniau gwlad.
105 1. Y mae gan bawb hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasu heddychlon.
114 3. Ewyllys y bobl fydd sail awdurdod llywodraeth; mynegir yr ewyllys hon drwy etholiadau dilys o bryd i'w gilydd, drwy bleidleisio cyffredinol a chyfartal, a thrwy bleidlais ddirgel neu ddull pleidleisio rhydd tebyg.
117 Y mae gan bawb, fel aelod o gymdeithas, hawl i ddiogelwch cymdeithasol, i allu mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n anhepgorol i'w hurddas ac i ddatblygiad rhydd eu personoliaeth, trwy ymdrech genedlaethol a chydweithrediad rhyngwladol ac yn unol â threfniadaeth ac adnoddau pob Gwladwriaeth.
120 1. Y mae gan bawb hawl i waith, i ddewis eu gyrfa yn rhydd, i amodau gwaith cyfiawn a boddhaol, ac i amddiffyniad rhag diweithdra.
124 3. Y mae gan bawb sy'n gweithio hawl i dâl teg a boddhaol gan sicrhau iddo'u hunain ac i'w teulu fodolaeth deilwng o urddas dynol, ac ychwanegu at hynny, os bydd rhaid, drwy ffyrdd eraill o nawdd cymdeithasol.
129 Y mae gan bawb hawl i orffwys a hamdden gan gynnwys cyfyngiad rhesymol ar oriau gwaith, ac i wyliau cyfnodol gyda thâl.
132 1. Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i'w hiechyd a'u ffyniant eu hunain a'u teulu, gan gynnwys bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd diweithdra, afiechyd, anabledd, gweddwdod, henaint neu unrhyw fethiant bywoliaeth arall pan fo’r amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth.
134 2. Y mae gan famolaeth a phlentyndod hawl i ofal a chymorth arbennig. Dylai pob plentyn, p’un ai wedi eu geni o fewn neu du allan i briodas, fwynhau'r un diogelwch cymdeithasol.
137 1. Y mae gan bawb hawl i addysg. Dylai addysg fod yn rhydd, o leiaf addysg elfennol a sylfaenol. Dylai addysg elfennol fod yn orfodol. Dylid gwneud addysg dechnegol a phroffesiynol yn agored i bawb, a dylai fod mynediad llawn a chydradd i bawb i addysg uwchradd ar sail teilyngdod.
139 2. Dylai addysg amcanu datblygu personoliaeth llawn yr unigolyn a chryfhau parch i hawliau dynol a'r rhyddfreintiau sylfaenol. Dylai hyrwyddo dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymysg yr holl genhedloedd ac ymysg grwpiau hiliol neu grefyddol, a dylai hefyd hyrwyddo gwaith y Cenhedloedd Unedig dros heddwch.
141 3. Gan rieni y mae'r hawl cyntaf i ddewis y math o addysg a roddir i'w plant.
144 1. Y mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymdeithas, i fwynhau'r celfyddydau ac i gyfranogi o gynnydd gwyddonol a’i fuddiannau.
146 2. Y mae gan bawb yr hawl i fynnu diogelwch i'r buddiannau moesol a materol sy'n deillio o unrhyw gynnyrch gwyddonol, llenyddol neu artistig y maent yn awdur iddo.
149 Y mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol lle y gellir llawn sylweddoli'r hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn.
152 1. Y mae gan bawb eu dyletswyddau i gymdeithas, lle yn unig y mae datblygiad rhydd a llawn eu personoliaeth yn bosibl.
154 2. Ni ddylid cyfyngu ar neb, wrth iddynt arfer eu hawliau a'u rhyddfreintiau, ond pan bennir hynny gan gyfraith gyda'r unig amcan o sicrhau cydnabod a pharchu hawliau a rhyddfreintiau pobl eraill, ac i gyfarfod â gofynion cyfiawn moesoldeb, trefn gyhoeddus a ffyniant cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd.
156 3. Ni ellir arfer yr hawliau a'r rhyddfreintiau hyn mewn unrhyw achos yn groes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.
159 Ni ellir dehongli dim yn y Datganiad hwn i olygu bod gan Wladwriaeth, grp neu berson unrhyw hawl i ymroddi i unrhyw weithgarwch neu i gyflawni unrhyw weithred gyda'r bwriad o ddistrywio unrhyw un o'r hawliau a'r rhyddfreintiau a nodir yma